![]() | |
Math | volcanic field ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Harrat Ash Shamah ![]() |
Sir | As-Suwayda Governorate ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 1,803 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 32.67°N 36.73°E ![]() |
![]() | |
Deunydd | basalt ![]() |
Mae Jabal ad Duruz (Arabeg: جبل الدروز, "Mynydd Druze"; a elwir hefyd yn Jabal el Arab, Arabeg: جبل العرب) yn ardal folcanig uchel yn ne Syria, yn nhalaith As Suwaydā (mohofazat Souweida). Ceir eira yno yn y gaeaf. Mae'r mwyafrif o'r trigolion yn bobl Druze, ond ceir cymunedau bychain o Gristnogion yn ogystal. Darganfuwyd arysgrifiadau Safaitig (math o broto-Arabeg a ddefnyddid gan y Bedouin ac eraill) am y tro cyntaf yn yr ardal hon. Bu'n dalaith hunanlywodraethol yn ystod Mandad Ffrengig Syria rhwng 1921 a 1936, dan yr un enw (Jabal el Druze (talaith)).
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search